Y wybodaeth ddiweddaraf am adael yr Undeb Ewropeaidd:

 
#

 

 

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol | 5 Mehefin 2017

External Affairs and Additional Legislation Committee | 5 June 2017

 

 

 
 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Rhagarweiniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae’n ymdrin â’r cyfnod rhwng 17 a 31 Mai, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau’r Pwyllgorau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor yn cwblhau ymchwiliad i’r goblygiadau posibl i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyma sesiwn ddiweddaraf ymchwiliad y Pwyllgor:

§    22 Mai: Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn breifat i drafod: y wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion am weithgareddau ym Mrwsel; ei flaenraglen waith; a’i adroddiad drafft ar ddyfodol polisi rhanbarthol. Hefyd, talodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor, deyrnged i waith Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru, ar faterion Ewropeaidd ac allanol yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaeth.

Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Cyhoeddir blogiau’r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blogiau diweddaraf am Brexit yw Amcangyfrifo’r llinell amser ar gyfer deddfwriaeth Brexit, “Bil y Diddymu Mawr”: Beth yw’r goblygiadau?, a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth fyddai goblygiadau masnachu o dan delerau “Sefydliad Masnach y Byd” i economi Cymru?.

Adroddiadau eraill

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn llunio adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal yr ymchwiliad a ganlyn: Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd?

Mae ‘Goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol’ yn rhan benodol o gylch gorchwyl ymchwiliad cyfredol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol.

Newyddion

18 Mai: Bara Lawr o Gymru yn ennill statws gwarchodedig.

22 Mai: Undeb Amaethwyr Cymru yn amlinellu blaenoriaethau amaethyddol i ymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol.

25 Mai: Croesawodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mike Russell, Aelod o Senedd yr Alban, i Gymru ar gyfer trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

30 Mai: Rhaid cynnal masnach rydd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd (Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr)

3.       Y wybodaeth ddiweddaraf o’r UE

Y Cyngor Ewropeaidd

17 Mai: Llywydd Tusk yn trafod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn Senedd Ewrop: "Time is of the essence here, and much is at stake".

22 Mai: Y Cyngor (Erthygl 50) yn awdurdodi dechrau trafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd ac yn mabwysiadu cyfarwyddebau trafod.

25 Mai: Cyfarfu arweinwyr yr UE ac Unol Daleithiau America ym Mrwsel.

27 Mai: Cyhoeddiad gan Arweinwyr y G7 yn Taormina.

29 Mai: Cytundeb yswiriant rhwng yr UE a’r UDA: y Cyngor yn cytuno i lofnodi.

29 Mai: Casgliadau ar strategaeth polisi diwydiannol yr UE yn y dyfodol.

29 Mai: Sylwadau gan Llywydd Donald Tusk yn ystod trafodaeth panel o dan y teitl "European (Dis)Union?" yn ystod y fforwm Globsec yn Bratislava.

Y Comisiwn Ewropeaidd

17 Mai: Araith gan yr Arlywydd Juncker yn ystod cyfarfod llawn Senedd Ewrop ar gasgliadau’r cyfarfod arbennig o’r Cyngor Ewropeaidd (Erthygl 50) ar 29 Ebrill 2017.

17 Mai: Troseddau ym mis Mai - Y Comisiwn yn galw ar y DU i drawsosod rheolau newydd ar gychod hamdden a’u peiriannau, ac mae’r Comisiwn wedi codi achos yn erbyn 14 o Aelod-wladwriaethau (gan gynnwys y DU) am fethu ag adrodd yn ôl ar y camau a gymerwyd i roi nifer o reolau gwastraff yr UE ar waith.

17 Mai: Cymorth gwladwriaethol: Y Comisiwn yn symleiddio rheolau ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus mewn porthladdoedd a meysydd awyr, diwylliant a’r rhanbarthau mwyaf allanol.

18 Mai: Adroddiadau’r Comisiwn Ewropeaidd ar weithredu’r Siarter hawliau sylfaenol yn yr UE yn 2016.

22 Mai: Datganiad gan Michel Barnier mewn cynhadledd i’r wasg yn dilyn cyfarfod y Cyngor Materion Cyffredinol (Erthygl 50).

22 Mai: Y Comisiwn Ewropeaidd yn cael mandad i ddechrau trafodaethau â’r DU. Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei ffordd o sicrhau tryloywder, sy’n cynnwys cyhoeddi: agendâu ar gyfer trafodaethau; papurau safbwynt yr UE; papurau trafod; a chynigion gan yr UE o ran testun y cytundeb.

22 Mai: Cyfarwyddebau trafod ar gyfer y trafodaethau ar Erthygl 50.

22 Mai: Semester Ewropeaidd 2017, Pecyn y Gwanwyn: y Comisiwn yn gwneud argymhellion ar gyfer gwledydd penodol.

23 Mai: Datganiad gan Jean-Claude Juncker, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion.

Ymgynghoriad – Gwerthusiad o reoliad TEN-E (Yn dod i ben ar 4 Medi).

29 Mai: Y Comisiwn yn croesawu mabwysiadu rheolau newydd i atal osgoi treth.

29 Mai: Araith gan Michel Barnier yng nghyfarfod rhif 57 COSAC (Cynhadledd Pwyllgorau Materion Cymunedol ac Ewropeaidd Seneddau’r Undeb Ewropeaidd) – Malta.

29 Mai: Papurau safbwynt drafft yr UE ar drafodaethau Erthygl 50: Hawliau dinasyddion a’r setliad ariannol.

Senedd Ewrop

17 Mai: Aelodau o Senedd Ewrop yn croesawu undod wrth i’r DU adael yr UE ac yn galw am ddiwygio’r UE – ASEau yn trafod y canllawiau ar gyfer y trafodaethau â’r DU ar delerau’r broses o adael, a fabwysiadwyd yn ystod Uwchgynhadledd yr UE ym mis Ebrill, gyda Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, a’r Comisiwn.

17 Mai: Mae Undeb Ewropeaidd cryf ac unedig yn hanfodol i sicrhau Cenhedloedd Unedig cryf – António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

18 Mai: Y DU yn gadael yr UE a Senedd Ewrop: beth mae’n ei olygu o ran y rhyddid i symud? – Dadl yn Swyddfa Senedd Ewrop yn Llundain.

24 Mai: Munud o dawelwch yn Senedd Ewrop ar gyfer dioddefwyr yr ymosodiad ym Manceinion.

30 Mai: ASEau yn holi Jean-Claude Juncker ar newid barn yn y frwydr yn erbyn osgoi treth.

Newyddion Ewropeaidd

23 Mai: Brwsel yn cyhoeddi meini prawf ar gyfer lleoliad asiantaethau’r UE ar ôl i’r DU adael. (Politico)

4.       Datblygiadau yn y DU

Llywodraeth y DU

26 Mai: Datganiad y Prif Weinidog yn Uwchgynhadledd y G7 yn Sicily.

Tŷ’r Cyffredin

Mae Senedd y DU wedi’i diddymu hyd nes yr Etholiad Cyffredinol.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Senedd y DU wedi’i diddymu hyd nes yr Etholiad Cyffredinol.

Newyddion

26 Mai: Mae ffermwyr Prydain yn cael £3 biliwn y flwyddyn o bolisi amaethyddol cyffredin aneffeithlon. Mae’n rhaid i’r sefyllfa hon newid. (LSE)

30 Mai: Mae canlyniadau economaidd cyfyngu ar fudo yn frawychus. (LSE)

5.       Gogledd Iwerddon

Mae’r Cynulliad wedi cyhoeddi EU Matters: BREXIT Negotiation Focus, sy’n cynnwys crynodeb o safbwyntiau Llywodraeth y DU, y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop yn y trafodaethau perthnasol.

6.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

Red, Yellow and Blue Brexit: the manifestos uncovered (UK in a Changing Europe)